Newyddion

Tudalen alawon newydd

Tudalen alawon newydd

Mae'r tudalennau alawon wedi cael eu huwchraddio cyn Gŵyl Ffidil Cymru 2019!

Nawr gallwch chi wrando ar bob tiwn, yn ogystal â gweld y 'dotiau' (nodiant).

Yn y cefndir, mae bellach yn gyflymach iawn ac yn haws ychwanegu alawon. Os oes unrhyw alawon o sesiynau eleni yr hoffech i ni eu cynnwys, efallai y gallwn eu hychwanegu yn ystod yr ŵyl, neu'n fuan wedi hynny.

Yn seiliedig ar adborth o ŵyl y llynedd, rydyn ni hefyd yn mynd i geisio ychwanegu rhai o'r alawon ar gyfer y gweithdai ar-lein cyn y gweithdai, fel eich bod chi'n cael cyfle i gael golwg arnyn nhw. Fe welwch y dolenni hyn yn yr amserlen ddrafft. Mae croeso i chi hefyd ddefnyddio'r alawon sydd eisoes ar-lein yn y sesiynau.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn chi! Cysylltwch â ni trwy glicio yma.


< Nôl


Cynnwys y safwê © 2025 Gŵyl Ffidil Cymru (oni nodir yn wahanol)